A logo with colorful circles  Description automatically generated             

 

COFNODION y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd

24 Ionawr 2024, 10.30am i 11.30am

 

Yn bresennol ac ymddiheuriadau

 

 

 

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd

Dyddiad: 24 Ionawr 2024; 10.30am – 11.30am

Lleoliad: Ar-lein drwy Teams

Trefnwyd gan: Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru, a Jane Dodds AS

 

Enw

Sefydliad

 

Jane Dodds AS

Senedd Cymru

 

Sioned Williams AS

Senedd Cymru

 

Phoebe Jenkins

Senedd Cymru

 

Sean O’Neill

Plant yng Nghymru

 

Louise O'Neill

Plant yng Nghymru

 

Linda Hawkins

Cyngor Rhondda Cynon Taf

 

Rhian Smith

Y Rhwydwaith Maethu

 

Amy Bainton

Barnardo’s Cymru

 

Mark Carter

Barnardo’s Cymru

 

Lisa Roberts

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

 

Marianne Mannello

Chwarae Cymru

 

Liz Gregory

Parent Infant Foundation

 

Eleri Griffiths

Swyddfa Nerys Fychan AS

 

Catrin Glyn

Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

 

Cath Lewis

Cŵn Tywys Cymru

 

Cecile Gwilym

Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)

 

Helen Perry

Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru

 

Hannah Williams

Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Samantha Baron

 

 

Tina Foster

TGP Cymru

 

Sian Thomas

Senedd Research

 

 

 

 

 

Ymddiheuriadau

Llyr Gruffydd AS

Dave Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Daljit Kaur Morris, NYAS Cymru

Dave Goodger, Blynyddoedd Cynnar Cymru

Alex Williamson, Wave Trust

Mark Jones, Higher Plain Research & Education Ltd

Becky Saunders, Foundations

 

1.    Croeso a Phresenoldeb/Ymddiheuriadau

Croesawodd Jane Dodds AS a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol hwn bawb i’r cyfarfod.  Mae rhestr lawn o’r bobl a oedd yn bresennol ac ymddiheuriadau ynghlwm.

 

Aeth y Cadeirydd drwy bob un o’r pedair thema a drafodwyd mewn cyfarfodydd yn ystod 2023 – Gwasanaethau ar Ffiniau Gofal; y 1000 Diwrnod Cyntaf; profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a Thlodi Plant a rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am bob un:

 

-       Gwasanaethau ar Ffiniau Gofal – dyma fydd thema heddiw a bydd cyflwynwyr o’r llynedd yn rhoi diweddariad llafar

-       Y 1000 Diwrnod Cyntaf – mae’r pwnc hwn yn gorgyffwrdd â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Neuadd yn y Senedd yn ystod bore 1 Hydref 2024. Byddwn yn gweithio gyda Hyb ACE Cymru ac asiantaethau allweddol eraill i ddatblygu rhaglen o siaradwyr, a gellir anfon unrhyw argymhellion eraill mewn e-bost at Phoebe/Louise. Byddwn hefyd yn chwilio am enghreifftiau ymarferol o arferion sy’n ystyriol o drawma er mwyn sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru.  Rydym eisiau ymrwymiad clir i ymgorffori Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn agenda cyflawni ymarferol Cymru

-       Tlodi Plant – mae angen ailedrych ar hyn a bydd cyfarfod ar y cyd â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi yn cael ei drefnu

-       Deddf Plant newydd arfaethedig – bydd y ddau Grŵp Trawsbleidiol (ar Blant a Theuluoedd a Phlant yn ein Gofal) yn dod at ei gilydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddatblygu strategaeth ar gyfer y dyfodol. Y nod yw ei chynnwys ym maniffestos yr holl bleidiau gwleidyddol ar gyfer 2026

 

2.    Gwasanaethau ar Ffiniau Gofal ledled Cymru – diweddariad

Croesawodd y Cadeirydd nifer o siaradwyr a gyflwynodd yng nghyfarfod Gwasanaethau ar Ffiniau Gofal yn 2023 gan eu gwahodd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau eu sefydliad sy’n ceisio sicrhau bod plant yn cael eu cadw gyda’u teuluoedd neu eu teuluoedd estynedig fel nad ydynt yn cael eu rhoi mewn gofal.

Amy Bainton a Mark Carter, Barnardo’s Cymru

Rhoddodd Mark yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghasnewydd a Sir Fynwy. Mae gwasanaeth Casnewydd yn canolbwyntio ar ‘Baby and Me’ ac mae’n parhau i weithredu’n effeithiol.  Mae gweithiwr tad hefyd wedi cael ei recriwtio i’r gwasanaeth. Mae llawer o waith yn cael ei wneud gyda’r Bwrdd Iechyd lleol, yn benodol gwaith gydag Ysbyty’r Grange yng Nghwmbrân. Mae Cynadledda Teulu a Grŵp hefyd yn ganlyniad cadarnhaol arall, lle mae teuluoedd yn cael llais. 

Mae ‘Gwasanaeth Ymateb Cyflym’ Barnardo's Cymru wedi datblygu lawer yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda thîm bach o weithwyr cymorth ymroddedig yn yr hyb diogelu, lle maent yn ymateb ar unwaith i fethiant achosion neu argyfyngau.

Yn Sir Fynwy, mae’r gwasanaeth ‘Families Together’ yn gweithio i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc sy’n byw o dan Orchymyn Gofal, neu orchymyn gofal gan berthynas neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig. Mae anghysondebau ledled y wlad, ond mae Barnardo's yn gallu cefnogi awdurdodau lleol sy’n helpu i sicrhau parhad.

Rhoddodd Amy ddiweddariad mwy cyffredinol am Barnardo's ledled y wlad, a phwysleisiodd yr effaith bosibl ar gyfer y dyfodol oherwydd y rhagolwg economaidd sydd ohoni. Mae llawer o’u gwasanaethau, a sefydlwyd ar gyfer ymyrraeth ac atal cynnar, bellach yn gweithredu ar ffiniau gofal gan fod mwy o angen yn cynyddu’n gyson. Mae’r cynnydd mewn iechyd meddwl gwael a chostau byw ac ati yn cael effaith enfawr ac mae’n ymddangos bod y sefyllfa’n gwaethygu.

Mae cynaliadwyedd yn broblem enfawr gan nad yw nifer o wasanaethau yn gwybod ble fyddan nhw yn y dyfodol. Mae llawer o awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau llym, byrdymor oherwydd argyfwng cyllido.

Cam i’w gymryd:

Cytunodd Jane Dodds i ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â chynaliadwyedd a chyllid yn y dyfodol.

 

3.    Diweddariad NSPCC Cymru - Cecile Gwilym

Cadarnhaodd Cecile ymhellach yr angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar, mae llawer o leoedd mewn argyfwng, ac mae mwy o risg ar rieni a theuluoedd. Mae’r angen yn fawr, yn enwedig ym maes iechyd meddwl amenedigol ac mae’r NSPCC yn galw’n gyson i’r Bwrdd Iechyd roi adnoddau i wasanaethau. Rhaid inni wneud y canlynol:

·         Blaenoriaethu gwasanaethau ataliol yn gyson

·         Cydweithio ar y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol. Mae angen i’r gwaith hwn gyflymu, mae angen llawer o fentrau mewn polisi ond mae bwlch wrth eu gweithredu

·         Parhau i wrando ar yr hyn y mae plant, pobl ifanc a babanod yn ei ddweud wrthym

·         Mae angen i ymyrraeth gynnar fod wrth wraidd yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud, ac mae pryder mawr ein bod yn symud oddi wrth hyn ac ni allwn weld hynny’n cael ei golli

 

 

 

4.    Diweddariad y Rhwydwaith Maethu - Rhian Smith

Mae’r prosiect Step Up Step Down yn enghraifft dda iawn o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Penfro. Mae’r gwaith yn cael ei ddatblygu o fewn y tîm gwaith cymdeithasol ac mae tri gofalwr maeth gwych bellach yn cymryd rhan.

Mae’r rhaglen yn cynnig cymorth tymor canolig a hirdymor, yn ogystal â chymorth mentora i ofalwyr maeth a seibiannau byr i deuluoedd.

Wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen, gobeithiwn y bydd gennym rai enghreifftiau addawol i’w rhannu.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau am 3 blynedd a’r gobaith yw y bydd yn cael ei estyn.

 

5.    Diweddariad Project Unity, NYAS Cymru - Helen Perry

Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda dynion a menywod ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn amgylchedd eirioli. Rydym yn cynnig sesiynau un-i-un a gwasanaethau gofal cofleidiol.

Mae llawer o’r gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yng Nghymru.  Y peth da yw ein bod yn cael llawer o hunanatgyfeiriadau, ar adeg beichiogrwydd, gan eu bod wedi clywed y gallant gael llais yn y system. Hefyd mae rhieni’n cyfeirio eu ffrindiau, felly mae hyn yn gyflawniad enfawr. Hefyd oherwydd yr ymyrraeth gynnar, mae llawer ohonynt yn mynd â’u babanod adref.

Dyma’r problemau i ni:

·         Cyllid – mae’n dod i ben yn 2025 – beth sy’n digwydd wedyn a phwy fydd yn gweithio i gefnogi’r bobl ifanc hyn?

·         Mae atgyfeiriadau gan weithwyr ieuenctid a gweithwyr iechyd proffesiynol yn dod yn rhy hwyr

·         Mewn dros 98 y cant o atgyfeiriadau (pob rhiant sydd â phrofiad o fod mewn gofal), mae’r babanod yn mynd ar y gofrestr amddiffyn plant yn y pen draw. Ydyn ni’n paratoi ein plant a’n pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ar gyfer bod yn rhiant yn gywir?

·         Mae’n bendant yn loteri cod post.  Mae nifer o Awdurdodau Lleol yn dal i fod yn amharod i gymryd risg ac am fynd â’r babanod rhag ofn

·         Mae babanod yn cael eu cymryd yn yr ysbyty. Mae rhai rhieni’n cael gwybod y byddan nhw’n cael eu cefnogi, ond os caiff y babi ei eni’n gynnar a does dim cefnogaeth yn ei lle, mae’r babi yn cael ei gymryd

·         Mae tai yn parhau i fod yn broblem

·         Taliad Incwm Sylfaenol – mae llawer iawn o adolygiadau cymysg ynghylch a yw’n gweithio

 

Camau i’w cymryd:

Barnardo's, NSPCC a NYAS Cymru i anfon rhai ffeithiau a ffigurau o ran canlyniadau at Jane. Phoebe/Louise wedyn i ddatblygu llythyr ynglŷn â phryderon o ran cyllid gwasanaethau ar ffiniau gofal a’i anfon at y Gweinidog. Angen rhywfaint o atebolrwydd a thargedau ar gyfer LlC. Llythyr i’w gymeradwyo gan bawb cyn ei anfon.

Jane i ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymdeithasol, yn yr wyth Awdurdod Lleol yn ei rhanbarth, i sicrhau eu bod yn gwybod am Project Unity. Heledd Fychan AS i gefnogi hyn. Tîm Jane i ddrafftio llythyr a’i rannu â swyddfa Heledd Fychan. Llythyr i’w anfon at bob AS hefyd.

Jane i ddrafftio llythyr, gyda chefnogaeth gan sefydliadau sy’n aelodau o’r Grŵp Trawsbleidiol, at y Prif Weinidog erbyn hyn, ac ymgeiswyr newydd posibl, ynghyd â Jane Hutt a Jenny Rathbone, yn galw am Weinidog babanod, plant a phobl ifanc yn y cabinet nesaf. Byddai cefnogaeth drawsbleidiol yn ffafriol. Roedd aelodau o’r grŵp a fynegodd eu cefnogaeth yn cynnwys:

Chwarae Cymru, NSPCC Cymru, Young Foundations, NYAS Cymru, Plant yng Nghymru, Barnardo’s Cymru, Cŵn Tywys Cymru, a’r Rhwydwaith Maethu a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (y ddau i’w cadarnhau).

 

6.    Trafodaeth

Mae Tina Foster, Tros Gynnal Plant Cymru – yn cynnal cyfarfodydd grŵp teuluol y mae’r fframwaith adferol yn sail iddynt, gydag atgyfeiriadau gan awdurdodau lleol. Mae 90+% o’r adborth yn gadarnhaol ac yn effeithiol iawn. Tina i anfon tystiolaeth at Jane a all gynnwys yr wybodaeth hon yn y llythyr at awdurdodau lleol (fel y crybwyllwyd uchod)

Cecile Gwilym, NSPCC Cymru – mae angen ymrwymiad cyllidol, atebolrwydd a thargedau gan Lywodraeth Cymru. Mae angen inni sicrhau bod cyllid yn cyrraedd plant mewn gwirionedd. Mae angen ymdrech arnom am fwy o dryloywder, cerrig milltir a thargedau i weld pryd a sut mae pethau’n cael eu cyflawni. Siaradodd Jane am y diffyg targedau yn ei haraith ar 23.01.24.

Amy Bainton, Barnardo’s Cymru – o ran diwygio radical a gwasanaethau ar ffiniau gofal, a allwn ni ofyn am ddiweddariad ar hyn gan y Gweinidog? Cadarnhaodd Jane ei bod wedi gofyn y cwestiwn i’r Prif Weinidog ar 23.1.24 ar elw mewn gofal, ond mae’r cynnydd a addawyd wedi arafu. Cadarnhaodd Sian Thomas o Ymchwil y Senedd fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dod yn ôl i edrych ar yr agenda hon

Sian Thomas, Ymchwil y Senedd - lansiodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad newydd o’r enw “Plant sydd ar yr Ymylon” gan ganolbwyntio ar blant coll a phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’r ystadegau’n hwyr o ran eu cyhoeddi. Hefyd mae adroddiad yn cael ei ddrafftio ar y gyllideb ddrafft ac mae tystiolaeth yn cael ei chymryd gan Weinidogion ar hyn o bryd. Gall rhanddeiliaid barhau i godi’r materion hyn, maent yn parhau i fod ar eu hagendâu.  Yn edrych ar ddiwygio Arolygiaeth Gofal Cymru yn radical mewn cyfarfod ym mis Mawrth.

Jane – os oes gan unrhyw aelod o’r grŵp ragor o awgrymiadau am yr hyn y maent am ei wneud, a fyddech cystal ag anfon e-bost at Phoebe? Helen Perry, Project Unity, i gyflwyno i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Blant yn ein Gofal.

7.    Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf

Dim.

24 Ebrill 2024, 10.30am i 11.30am, hybrid – cyfarfod ar y cyd â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi

Gweddill y dyddiadau ar gyfer 2024 i’w cadarnhau